
Mae FCN yn dibynnu’n llwyr ar gyfraniadau a grantiau er mwyn parhau i gefnogi’r gymuned ffermio, ac mae’r rhan fwyaf o’n hincwm yn cael ei wario ar gefnogi gwirfoddolwyr yn eu gwaith.
Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr iawn unrhyw gyfraniad gallwch ei roi i gefnogi ein gwaith. Mae sawl ffordd y gallwch chi roi i FCN:
Gwefan
Gallwch wneud taliad unwaith yn unig i FCN neu greu archeb sefydlog drwy glicio’r botwm “Rhoi” yn rhan uchaf y wefan hon.
Ar ôl i chi gyfrannu drwy ein gwefan, anfonwch e-bost at help@fcn.org.uk neu ein ffonio ar 01788 510866 er mwyn i ni allu cydnabod eich rhodd.
Trosglwyddo drwy’r banc / taliad BACS
Gallwch roi’n uniongyrchol o’ch banc chi i’n cyfrif banc ni:
Cod didoli: 16-30-19
Rhif cyfrif: 10072064
Cyfeirnod: FCN Donation
Ar ôl i chi gwblhau’r broses trosglwyddo, anfonwch e-bost at help@fcn.org.uk er mwyn i ni allu cydnabod eich rhodd.
Dros y ffôn
Rydym yn derbyn rhoddion dros y ffôn gyda cherdyn debyd neu gerdyn credyd. Ffoniwch 01788 510866 rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener – gwnewch yn siŵr bod gennych chi fanylion eich cerdyn yn barod.
Post
Mae modd anfon sieciau yn daladwy i “FCN” neu “The Farming Community Network” at:
Rhe Farming Community Network
Manor Farm
Guilsborough Road
West Haddon
Northamptonshire
NN6 7AQ
Rhodd Cymorth
Os ydych chi’n talu treth yn y Deyrnas Unedig ac yn awyddus i ni hawlio Rhodd Cymorth ar eich cyfraniad, llenwch y Datganiad Rhodd Cymorth a’i ddychwelyd atom dros e-bost neu’r post.
Cydnabyddiaeth
Hoffem gydnabod a diolch i bawb sy’n rhoi i ni. Fel arfer, byddwn yn gwneud hyn drwy neges e-bost neu’r post. Ond, os yw’n well gennych chi nad ydym yn cysylltu â chi, rhowch wybod hynny i ni pan fyddwch yn anfon eich rhodd atom.