Rydym ni’n cefnogi pobl ifanc trwy lyfr newydd i blant.
Mae ein llyfrau stori i blant, Cef Nogi yn Gymraeg a Sir Port yn Saesneg, wedi cael eu datblygu gyda’r awdur o Seland Newydd, Pauline McLeod, ac maen nhw’n helpu plant mewn cymunedau gwledig i ddatblygu sgiliau gwytnwch hanfodol ac agwedd gadarnhaol tuag at newid.

Cefnogir y llyfr gan Ymddiriedolaeth Elusennol NFU Mutual ac mae’n dilyn anturiaethau Cef Nogi / Sir Port, y ci teuluol annwyl, yn ystod llifogydd arbennig o drwm sy’n achosi anhrefn ar y fferm.
Mae’r stori’n canolbwyntio ar dair cenhedlaeth o’r un teulu – y mab, Oliver; ei fam a’i dad; a’i fam-gu – ac mae’n dangos sut maen nhw’n ymateb yn ystod y llifogydd, gan ofalu am eu hanifeiliaid a chanolbwyntio ar ddiwrnod mwy disglair yfory, pan fydd yr haul yn codi unwaith eto.
Mae’r llyfr wedi’i ddatblygu mewn ymateb i newidiadau ar draws amaethyddiaeth ym Mhrydain – gan gynnwys newidiadau polisi trawsnewidiol, ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd a newid hinsawdd – i helpu plant ifanc i ddeall y straen y gall ansicrwydd ei achosi i deuluoedd a’u helpu i ddatblygu ffordd gadarnhaol o ddehongli hyn.
Mae hefyd yn annog plant i gadw ‘Gwydr Gwên’/’Joy Jar‘ a’i lenwi â meddyliau, teimladau ac atgofion cadarnhaol sy’n dod â chysur iddynt. Wrth ddarllen y stori hon gyda’i gilydd, mae rhieni, teuluoedd a phlant wedi creu eu Gwydrau Gwên eu hunain, gan eu llenwi â gweithredoedd cadarnhaol sy’n rhoi ysgytwad o lawenydd iddynt. Mae rhieni’n aml yn deall y neges trwy ddarllen y stori hon i’w plant, ac yn cyflwyno Gwydr Gwên fel rhan o arfer dyddiol neu wythnosol.
Download a digital copy of Sir Port (English) here
Gallwch lawrlwytho copi digidol o Cef Nogi (Cymraeg) yma
I wneud cais am gopïau caled, anfonwch neges e-bost at help@fcn.org.uk. Bydd FCN yn gofyn am rodd fach i dalu am y gost o argraffu a phostio.
Gwrandewch ar lyfr sain Sir Port (Saesneg) isod: