Mae rhodd yn eich ewyllys, cymynrodd, yn ffordd wych o gefnogi gwaith ein gwirfoddolwyr.

Gall rhodd ein cynorthwyo ni gynllunio ar gyfer y dyfodol yn hyderus gan ganiatáu i ni baratoi yn drylwyr ar gyfer yr heriau all wynebu ffermwyr Prydain. Dim gwahaniaeth be fydd maint y gymynrodd a ddewiswch chi roi, bydd eich caredigrwydd a’ch haelioni yn gwneud gwahaniaeth i’r FCN.
Gall eich rhodd:
- Sicrhau y bydd ein gwirfoddolwyr yna bob amser i gefnogi ein teuluoedd amaethyddol, pan maent ei angen fwyaf.
- Cefnogi costau rhedeg ein llinell gymorth fel bo cefnogaeth gyfrinachol wastad ar gael i ffermwyr a’u teuluoedd.
- Cynorthwyo mwy o wirfoddolwyr i gyrraedd mwy o bobol sydd angen cefnogaeth yn y gymuned amaethyddol.
- Annog a chefnogi ffermwyr i adeiladu busnes cryf a chynaliadwy i sicrhau dilyniant ein treftadaeth amaethyddol.
Sut i adael cymynrodd
Mae gwneud ewyllys a’i chadw’n gyfredol yn hanfodol i sicrhau y bydd eich anwyliaid yn elwa yn y ffordd y dymunech wedi chi farw. Ar ôl gofalu am eich anwyliaid, ystyriwch adael cymynrodd i’r “Farming Community Network” os gwelwch yn dda.
Mae cymynrodd i elusennau cofrestredig fel yr FCN yn y DU yn rhydd o dreth. Os byddwch yn gadael arian i’r FCN yn eich ewyllys, fe’i telir allan cyn i’r dreth etifeddiaeth gael ei thalu gan leihau cyfanswm y dreth fydd yn daladwy ar eich ystâd.
Mae pedair math o gymynrodd i ddewis ohonynt:
- Ariannol – swm penodol o arian
- Gwaddodol – yr oll neu ran o’ch ystâd ar ôl talu dyledion, costau angladdol, rhai costau penodol eraill a threth ynghyd a chymynroddion eraill.
- Penodol – eitem o werth megis gemwaith.
- Gwrthdroi (neu Gwrthodol) – Cymynrodd sydd yn ddibynnol ar ddigwyddiad allasai digwydd neu ddim. Er enghraifft, cymynrodd sydd yn berthnasol pe bai eraill a enwir yn yr ewyllys yn marw cyn yr un a ysgrifennodd yr ewyllys.
Newid eich ewyllys
Os ydych eisoes wedi gwneud eich ewyllys, ond eich bod awydd ei newid i gynnwys rhodd i’r FCN, fe allwch wneud hynny trwy ysgrifennu codisil.
Mae codisil yn ddogfen gyfreithiol sydd yn caniatáu i chi wneud newidiadau i ewyllys, yn hytrach nac ail ysgrifennu’r ewyllys i gyd.
Beth yw’r camau nesaf?
Rydym wastad yn eich cynghori i drafod gyda chyfreithiwr wrth wneud neu addasu ewyllys.
Os ydych angen helpi ganfod cyfreithiwr, gall y “Cymdeithas y Cyfreithwyr” eich rhoi mewn cysylltiad gyda chyfreithiwr dibynadwy a all wneud y gwaith yn ôl eich dymuniad.
Cymdeithas y Cyfreithwyr
Ffôn: 020 7320 5650 (Dydd Llun – dydd Gwener 9yb – 5yh)
Os ydych yn dymuno gadael cymynrodd i’r FCN yn eich ewyllys, cofiwch sicrhau eich body n defnyddio ein cyfeiriad cofrestredig ynghyd a’n rhif ein helusen:
Cyfeiriad
The Farming Community Network, Manor Farm, Guilsborough Road, West Haddon, Northamptonshire, NN6 7AQ
Rhif Ein Helusen
1095919
Cydnabyddiaeth
Mae’r FCN yn cydnabod Beviss & Beckingsale cyfreithwyr a’i swyddfeydd yn Chard, Axminster a Seaton am eu cymorth wrth ysgrifennu’r daflen hon. www.bevissandbeckingsale.co.uk.