EIN SEFYDLIAD

Rydym yn falch iawn mai Ei Fawrhydi y Brenin Siarl III yw Noddwr ein helusen.

Sefydlwyd FCN yn 1995 gan Christopher Jones MBE, a fu farw ym mis Mai 2023.

Penodwyd y Farwnes Minette Batters i rôl Llywydd Anrhydeddus ym mis Mawrth 2025.

Caiff yr elusen ei llywodraethu gan fwrdd o ymddiriedolwyr, dan arweiniad y Cadeirydd, Roger Mercer.

Jude McCann yw’r Prif Weithredwr ers 2020. Mae wedi’i leoli yng Ngogledd Iwerddon ac mae’n ffermwr llaeth. Mae ganddo brofiad helaeth o arwain yn y sector amaethyddol. Cyn hynny, bu’n Brif Weithredwr Rural Support. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Cynhadledd Ffermio Rhydychen).

Mae Roger Mercer yn ffermwr a dyn busnes o Swydd Stafford, ac yn Gadeirydd Mercer Farming, sydd â buddiannau ym meysydd ffermio, bwyd ac eiddo. Bu’n Gadeirydd Prifysgol Harper Adams a Nuffield International yn y gorffennol, ac mae bellach yn Gadeirydd FCN. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn mentrau teuluol, stiwardiaeth, olyniaeth a chefnogi cymunedau gwledig drwy weithgarwch busnes a gwaith elusennol.

Mae Olivia Seccombe yn weithiwr proffesiynol ym maes cyfathrebu a materion cyhoeddus sydd wedi ennill gwobrau, ac mae ganddi wybodaeth eang am wleidyddiaeth a dealltwriaeth graff o’r maes. Ar hyn o bryd, hi yw Pennaeth Materion Corfforaethol British Sugar. Cyn hynny, bu’n Bennaeth Materion Allanol gyda’r NFU.

Mae’r Parch. Matthew Jeffrey wedi’i leoli yn Swydd Warwick. Mae’n weinidog Bedyddiedig ordeiniedig ac yn Brif Weithredwr Canolfan Arthur Rank, sy’n cefnogi eglwysi gwledig ledled y DU. Ymunodd â ni yn 2023.

Mae Giles Bowring wedi’i leoli yn Swydd Gaerhirfryn. Mae ef wedi bod yn aelod o’r bwrdd ers 2019. Mae ef hefyd yn ymddiriedolwr Sefydliad Elusennol Cymdeithas Adeiladu Skipton a’r Ymddiriedolaeth Elusennol y CLA. Yn ogystal, mae’n llywodraethwr ysgol ac yn Gyfarwyddwr Cwmni Settle Hydro.

Mae Stuart Roberts yn ffermwr cnydau âr a da byw o Swydd Hertford. Yn y gorffennol, bu’n Ddirprwy Lywydd yr NFU, ac mae’n cadeirio Grŵp Gweithredol Bwyd a Ffermio y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae Amy Cowdell wedi’i lleoli yn Swydd Lincoln ac yn arbenigo mewn cyfraith amaethyddol. Ar hyn o bryd, mae’n Bartner yn Shakespeare Martineau Agriculture. Ymunodd â ni yn 2023.

Mae Rob Walrond yn ffermwr o Wlad yr Haf ac Ymgynghorydd Bywyd Gwledig yn Esgobaeth Caerfaddon a Wells. Ymunodd Rob â ni yn 2021.

Mae Ciara Williams yn arwain tîm Tir Fferm o fewn Comisiynwyr Eglwys Loegr, gan oruchwylio’r gwaith o reoli 80,000 erw o dir amaethyddol ac eiddo. Mae’r rhain yn rhan o gronfa waddol sy’n darparu cymorth ariannol hirdymor ar gyfer cenhadaeth a gweinidogaeth Eglwys Loegr. Mae Ciara yn syrfëwr gwledig siartredig (MRICS) ac yn Gymrawd o’r Central Association of Agricultural Valuers (CAAV). Hi hefyd yw Cadeirydd presennol Pwyllgor Mwynau’r CLA. Chwaraeodd Ciara ran weithredol yn y gwaith o lunio’r Côd Ymarfer ar gyfer Landlordiaid a Thenantiaid Tir Amaethyddol, ac mae ganddi angerdd dros faterion gwledig a chefnogi busnesau amaethyddol. Mae Ciara yn byw ar stad ffermio yng nghefn gwlad Swydd Rhydychen gyda’i phartner, Tom, a’u dau gi spaniel.

Mae Lucia Slack yn Nyrs Iechyd Meddwl gofrestredig ac mae ganddi gymhwyster i ragnodi meddyginiaethau fel rhagnodwr nad yw’n feddyg. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel Arweinydd Clinigol gyda’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yng Ngogledd Cumbria. Mae Lucia hefyd yn Ysgolhaig Ffermio Nuffield 2025. Mae’n byw gyda’i gŵr a’i theulu ar eu fferm laeth ar denantiaeth, ychydig y tu allan i Benrith.

Mae Elle Vercoe-Gibson yn arweinydd ymroddedig ym maes cynaliadwyedd amaethyddol a lles anifeiliaid. Ar hyn o bryd, hi yw Rheolwr Amaethyddiaeth Waitrose & Partners, ac mae’n gyfrifol am weithredu strategaeth y Bartneriaeth ar les anifeiliaid. Ategir ei phrofiad gan ei hymchwil doethuriaeth ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr (UWE), sy’n ymchwilio i lwybrau cynaliadwy i’r farchnad er mwyn mynd i’r afael â lles ffermwyr a lles anifeiliaid. Mae ganddi brofiad helaeth o safonau a llywodraethu yn y diwydiant, ac mae’n aelod o Fwrdd Cynghori Rhanddeiliaid yr Animal Welfare Research Network. Mae hefyd wedi cyflawni amrywiaeth o rolau ar bwyllgorau sy’n ymwneud â’r gymuned ffermio. Mae Elle yn angerddol dros gyfrannu ei phrofiad strategol a’i hymrwymiad i waith ymchwil at ffyniant a lles cymunedau gwledig, drwy waith hanfodol FCN.

Mae Wyn Owen yn ymgynghorydd llawrydd sydd â phrofiad helaeth o newid sefydliadol, arweinyddiaeth a hyfforddi a mentora. Mae’n aelod ac yn gadeirydd bwrdd profiadol, ac mae ganddo ddwy radd Meistr. Mae hefyd wedi’i gymhwyso i weinyddu amrywiaeth o fesurau seicometrig. Mae Wyn yn Ysgolhaig Nuffield ac yn Gymrawd o’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol.

Zoe Legg yw Prentis Bwrdd FCN ac mae’n raddedig o Brifysgol Harper Adams.

Share this page