PARTNERIAETH GYDA CHYMORTH CANSER MACMILLAN

Rydym yn rhan o bartneriaeth gyda Chymorth Canser Macmillan ar draws y DU a fydd yn cynorthwyo i wella’r gefnogaeth sydd ar gael i’r rheiny sy’n byw â chanser mewn ardaloedd gwledig.

Fel rhan o’r bartneriaeth hon, bydd FCN Cymru yn gweithio’n agos gyda Chymorth Canser Macmillan, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth mewn cymunedau gwledig o arwyddion a symptomau canser, ac adeiladu pontydd atgyfeirio i ac o wasanaethau Macmillan.

Gall ffermwyr, gweithwyr fferm, a phobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig gael mynediad is at wasanaethau a chefnogaeth canser oherwydd natur eu gwaith, ac oherwydd eu bod yn byw bywyd gwledig mewn ardaloedd anghysbell yn aml.

Gall ffermwyr fod mewn perygl arbennig o gael rhai mathau o ganser, fel canser y croen, canser y brostad, neu ganserau a achosir gan aramlygiad i garsinogenau .

Gall ganser effeithio ar fusnes teuluol a all gyflogi llawer o bobl, a gall gael effaith sylweddol ar unigolyn a’i deulu – gan gynnwys eu sefyllfa tai, a theulu estynedig, neu anghenion disymwth lles anifeiliaid.

Gellir cysylltu â FCN yn gyfrinachol ar 03000 111 999 o 7yb tan 11yh bob diwrnod o’r flwyddyn.

Siaradwch â pherson llawn cydymdeimlad sy’n deall bywyd ffermio.

Mae llinell gymorth Macmillan ar gael saith diwrnod yr wythnos o 8yb tan 8yh, 0808 808 00 00.

Os hoffech chi, neu’ch sefydliad weithio gyda ni i gynorthwyo gyda’r gefnogaeth i bobl â chanser mewn cymunedau ffermio/gwledig, e-bostiwch falmai@fcn.org.uk


#GorauPoGyntaf

Rydym wedi datblygu ystod o adnoddau y gellir eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth o ganser ac i annog canfod canser yn gynnar. Mae’r adnoddau isod yn rhad ac am ddim i’w defnyddio a gellir eu rhannu’n eang a’u hargraffu.

Adnoddau

Posteri A4

Graffeg cyfryngau cymdeithasol

Arwyddion a symptomau canser – beth i’w wirio

Adnoddau rhyngweithiol

Rydym wedi datblygu nifer o adnoddau rhyngweithiol y gellir eu lawrlwytho a’u hargraffu – mae’r rhain yn ddelfrydol ar gyfer Clybiau Ffermwyr Ifanc, colegau amaethyddol a sefyllfaoedd eraill lle hoffech godi ymwybyddiaeth o ganser ymhlith eich cynulleidfa.

Cwis Uwch neu Is – Yn seiliedig ar ffeithiau a ffigurau amaethyddol a chanser i annog bobl i feddwl am rai ystadegau allweddol canser.

Gêm Paru Termau Meddygol Macmillan – Gêm paru i drafod ac ymgyfarwyddo â thermau a glywir yn aml wrth dderbyn diagnosis o ganser. Y bwriad yw codi ymwybyddiaeth a gwybodaeth am dermau o’r fath y tu allan i amgylchedd meddygol.

Gweithgaredd Senario – Senario Macmillan a FCN Cymru i grwpiau eu datrys a’u trafod; ac yna actio’r olygfa. Cyfle gwych i grwpiau drafod pynciau perthnasol ac i roi syniadau am sut y gallent helpu, neu sut y gallai Macmillan neu elusennau sy’n cynnig cymorth i ffermwyr a’r gymuned amaeth helpu.

Gwybodaeth am ganser

Gallwch dderbyn gwybodaeth am wahanol fathau o ganser ar wefan Macmillan.

Cymraeg – Welsh | Macmillan Cancer Support

Mae canser yn gyflwr lle mae celloedd mewn rhan benodol o’r corff yn tyfu ac yn lluosogi’n afreolus. Gall celloedd canseraidd oresgyn a dinistrio meinwe iach o amgylch gan gynnwys organau. Weithiau mae canser yn dechrau mewn un rhan o’r corff cyn lledaenu i ardaloedd eraill. Gelwir y broses hon yn metastasis. Bydd 1 o bob 2 o bobl yn datblygu rhyw fath o ganser yn ystod eu hoes. Mae mwy na 200 o wahanol fathau o ganser.

Isod mae rhai o’r canserau mwyaf cyffredin sy’n cael eu darganfod yn y DU, maent ymhlith y canserau y mae FCN yn canolbwyntio arnynt trwy gydol yr ymgyrch hon.

Canser y prostad

Mae canser y prostad yn dechrau yng nghelloedd y prostad. Chwarren fach yw’r

brostad sydd ychydig o dan y bledren o flaen y rectwm. Mae canser y prostad yn ganser cyffredin. Yn y DU mae tua 48,600 o ddynion yn cael diagnosis ohono bob blwyddyn. Mae canser y prostrad yn fwy cyffredin dros 65 oed.

Canser y croen

Mae’r rhan fwyaf o ganserau’r croen yn cael eu hachosi gan niwed i’r croen sy’n ganlyniad o amlygiad i’r haul. Gall y difrod ddigwydd o amlygiad i’r haul dros gyfnod hir o amser neu hanes o losgi yn yr haul. Mae pobl sydd â hanes o losg haul neu or-amlygu i’r haul yn ystod plentyndod hefyd yn wynebu mwy o risg o ddatblygu carsinoma y celloedd gwaelodol a charsinoma y celloedd cennog. Oherwydd bod pobl yn byw’n hirach, maent yn derbyn mwy o haul yn ystod eu hoes.

Canser y coluddyn

Mae’r coluddyn yn rhan o’r system dreulio ac fe’i rhennir yn goluddyn bach ac yn goluddyn mawr. Mae’r coluddyn mawr yn cynnwys y colon, y rectwm a’r anws. Defnyddir y term canser y coluddyn fel arfer i drafod:

canser y coluddyn

canser y rectwm

Gellir defnyddio’r term canser y coluddyn hefyd wrth siarad am ganserau eraill, gan gynnwys:

canser y coluddyn bach

canser melanoma anwrectwm

Canser yr ysgyfaint

Yr ysgyfaint yw rhan corff yr rydym ni’n ei ddefnyddio i anadlu. Canser ysgyfaint yw’r trydydd canser mwyaf cyffredin yn y DU. Mae tua 46,400 o bobl yn cael diagnosis ohono bob blwyddyn. Mae dau brif fath o ganser sylfaenol yr ysgyfaint.

Y rhain yw:

canser yr ysgyfaint celloedd nad ydynt yn fach (NSCLC)

canser yr ysgyfaint celloedd bach (SCLC)

Weithiau mae canser yn lledaenu i’r ysgyfaint o rywle arall yn y corff. Gelwir hyn yn fetastasis yr ysgyfaint neu ganser eilaidd yr ysgyfaint.

Canser y fron

Bob blwyddyn, mae tua 55,000 o fenywod yn cael diagnosis o ganser y fron yn y DU. Mae’n fwy cyffredin ymhlith menywod dros 50 oed, ond gall effeithio ar fenywod iau hefyd. Gall canser y fron fod yn ymledol neu’n anfewnwthiol (in-situ). Pan fydd pobl yn trafod canser y fron, maent fel arfer yn golygu canser y fron ymledol. Golygai hyn fod y celloedd canser wedi ymledu o’r man cychwynol sef y allan i’r dwythellau llaeth neu’r llabedau yn y bronnau i feinwe’r fron o amgylch. Gall dynion gael canser y fron. Mae’r rhan fwyaf o ganserau’r fron mewn dynion yn ymledol. Mae hyn yn golygu bod celloedd canser wedi lledaenu y tu allan i leinin dwythellau’r fron ac i fweinwe’r fron amgylchynol. Mae yna wahanol fathau o ganser ymledol y fron.

Share this page