Rydym yn croesawu’r cyfle i weithio ochr yn ochr â busnesau a sefydliadau yn y cymunedau gwledig lle rydym ni’n gweithio ac yn byw ynddyn nhw.
Drwy gefnogi FCN, bydd eich busnes ac aelodau staff yn gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau ffermwyr a’u teuluoedd. Gyda’n cymuned ffermio, gallwn helpu i siapio dyfodol cryfach, mwy cadarnhaol a chadarn i amaethyddiaeth Prydain.
Partneriaid corfforaethol FCN
Mae FCN yn gweithio gyda sawl sefydliad amaethyddol ac asiantaethau’r llywodraeth, ac yn cael cefnogaeth ganddyn nhw. Mae’r rhain yn cynnwys:

Pum rheswm dros gefnogi FCN…
- Mae pawb angen rhywun i siarad gyda nhw. Ond mae’n anodd gofyn am gymorth. Dydy ffermio ddim yn ffordd hawdd o fyw. Mae’n alwedigaeth unig heb fawr ddim o seibiant na gwyliau. Mae ffermwyr yn delio hefyd â helbulon bywyd teuluol, fel profedigaethau, salwch, unigrwydd, anghydfodau a blinder.
- Cefnogwch eich staff a chleientiaid. Gall ein tîm weithio gyda chi i hyrwyddo lles meddyliol cadarnhaol a chynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynghylch materion iechyd meddwl fel gorbryder, iselder a dementia yn ein cymunedau gwledig, gan rannu adnoddau a chyfeirio at wasanaethau lleol.
- Rhowch anogaeth i staff gymryd rhan a chymell eich tîm. Ewch ati i wella’r broses meithrin tîm a mwynhewch wrth gefnogi achos gwych a chodi arian i helpu i gefnogi ffermwyr a’u teuluoedd. Gallwn eich helpu drwy gynnig syniadau, deunyddiau a chyhoeddusrwydd ar gyfer eich digwyddiadau.
- Mae The Farming Community Network yn uchel ei barch gan elusennau eraill, y gymuned fusnes wledig ac asiantaethau llywodraeth leol a chenedlaethol. Rydym yn gweithio ar bob lefel gyda’r gymuned ffermio gyfan.
- Mae ein tîm bach ond ymroddedig yn y swyddfa ar gael bob amser i helpu gyda’ch cynlluniau a’ch syniadau. Mae ein gwirfoddolwyr yn cynnig cymorth ledled Cymru a Lloegr ac maen nhw bob tro’n fodlon dod draw i gwrdd â’ch tîm i siarad am y gwaith gwerthfawr a wnawn.
Mae croeso i chi siarad â ni am y ffyrdd eraill yr hoffech gynnwys ac ysbrydoli cwsmeriaid a staff. Gallwn helpu mewn amrywiol ffyrdd, gan gynnwys:
- Heriau meithrin tîm
- Helpu i greu calendr o ddigwyddiadau
- Cyfleoedd i fod yn Llysgennad FCN gwirfoddol
- Noddi a datblygu taflenni, deunyddiau neu raglenni
- Helpu i drefnu digwyddiadau
- Blychau casglu ar gownteri
- Cylchlythyrau mewnol ac allanol
- Cydnabod ymrwymiad a chyfraniad staff
- Cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu
- Lansio partneriaeth
I siarad mwy am weithio gyda FCN, cysylltwch â Vicki Beers, Rheolwr Partneriaethau Cenedlaethol FCN, ar 01788 510866 neu anfonwch neges at vicki@fcn.org.uk.