O werthu cacennau i deithiau cerdded hir, mae trefnu eich digwyddiad codi arian eich hun yn ffordd wych o godi arian i FCN, ond mae hefyd yn dod â llawer iawn o foddhad ac yn llawer o hwyl i chi, eich ffrindiau a’r teulu.
Mae tîm ein prif swyddfa wrth law i’ch helpu gydag unrhyw beth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer y digwyddiad codi arian. Mae cymaint o bethau y gallwch chi eu gwneud:
Unigol / Tîm

Cyflawni her
Ar eich pen eich hun neu mewn tîm, ar droed, ar olwynion, ar ddŵr neu dros fynyddoedd. Beth bynnag a wnewch, byddwch yn cefnogi eich cymuned ffermio.
Ocsiwn Elusennol
Gofynnwch i fusnesau lleol roi gwobrau anhygoel a chynnal ocsiwn elusennol.
Noson Gwis
Gofynnwch i’ch ffrindiau a’r teulu gymryd rhan, chwiliwch am leoliad, dewiswch thema ac i ffwrdd â chi!
Stondin gacennau / te parti
Dangoswch eich sgiliau yn y gegin neu gofynnwch i ffrindiau a theulu am brynhawn o ddanteithion.
Eglwysi a grwpiau ffydd
Diolchgarwch
Defnyddiwch yr ŵyl ddiolchgarwch i godi arian i FCN. Trefnwch swper a gwahodd pawb i ddod ynghyd i ddathlu diolchgarwch.
Gweddïau
Ewch am dro hir drwy gefn gwlad hardd Prydain. Cefnogwch eich cymuned ffermio drwy drefnu Taith Weddïo.

Y Sul cyntaf ar ôl yr Ystwyll
Beth am drefnu cael hen aradr yn eich dathliadau ar y Sul cyntaf ar ôl yr Ystwyll a helpu i gefnogi ffermwyr dros y flwyddyn i ddod?
Calan Awst
Ewch ati i ddathlu bod y ffrwythau cyntaf wedi aeddfedu drwy drefnu casgliad ar gyfer gwaith ein gwirfoddolwyr.
I drafod syniadau codi arian ac i gael rhagor o gefnogaeth, cysylltwch â Vicki Beers 01788 510866, neu anfonwch e-bost at vicki@fcn.org.uk.
Tuniau a bwcedi casglu
Mae rhoi blychau casglu ar gownteri ar ran FCN yn dod â ffrwd werthfawr o incwm i’n helusen, ond mae’n gyfle hefyd i godi ymwybyddiaeth am ein sefydliad a’r gwaith a wnawn yn y gymuned ffermio.
Os ydych chi’n eglwys neu’n fusnes lleol ac yn awyddus i gael tun neu fwced casglu, cysylltwch â phrif swyddfa FCN ar 01788 510866, neu anfonwch e-bost at help@fcn.org.uk.