
Gyda ffermio ym Mhrydain yn wynebu cryn newidiadau ac ansicrwydd mawr yn y blynyddoedd nesaf, mae FCN wrthi’n brysur yn paratoi ar gyfer yr heriau sydd o’n blaenau. Rydym yn rhagweld y bydd cynnydd sylweddol yn llwyth gwaith ein 400 a mwy o wirfoddolwyr drwy Gymru a Lloegr. Ond mae angen eich help chi arnom ni i barhau i gefnogi’r gymuned ffermio.
Mae FCN yn dibynnu’n llwyr ar gyfraniadau a grantiau er mwyn parhau i gefnogi’r gymuned ffermio. Mae’n bostio oddeutu £1,500 y dydd i gynnal FCN, ac mae’r rhan fwyaf o incwm FCN yn cael ei wario ar gynnal y llinell gymorth genedlaethol a thalu costau teithio gwirfoddolwyr.
Rydym yn ddiolchgar i bawb sy’n codi arian neu’n cyfrannu i ni – ac mae sawl ffordd y gallwch chi wneud hyn …
- Rhoi
- Gwirfoddoli
- Codi arian
- Corfforaethol
- Gadael rhodd yn eich ewyllys
- Rhannu eich stori